Mae pobol sydd wedi goroesi ymosodiadau brawychol yng ngwledydd Prydain a thu hwnt yn mynd ati i sefydlu grŵp lobïo i ddylanwadu ar bolisïau gwrth-frawychiaeth Llywodraeth Prydain.
Ymhlith ei sylfaenwyr mae Brendan Cox, gŵr gweddw’r Aelod Seneddol Jo Cox, a gafodd ei llofruddio yn 2016, teuluoedd rhai sydd wedi marw mewn ymosodiadau gan Islamyddion, yr IRA a’r asgell dde eithafol.
Mae pobol a gafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad ym Manceinion, ffrwydradau 7/7 yn Llundain a’r ymosodiad ar draeth yn Tiwnisia hefyd ynghlwm.
Dywed y grŵp y “gall brawychiaeth gael ei threchu – ond dim ond os ydyn ni’n cyd-dynnu fel gwlad i frwydro’n fwy effeithiol yn ei herbyn”.
Nodau
Un o brif nodau’r grŵp yw ymgyrchu i sicrhau polisïau gwrth-frawychiaeth mwy effeithiol a chau bylchau yn y gefnogaeth i ddioddefwyr a’u teuluoedd, yn ogystal â threchu llefarwyr casineb.
Dywed y grŵp eu bod nhw wedi cael “profiadau cymysg o ran cefnogaeth gan y llywodraeth a darparwyr gwasanaethau eraill”.
Maen nhw hefyd yn galw ar wefannau cymdeithasol i gymryd camau yn erbyn casineb, ac yn annog y cyfryngau i drin goroeswyr â pharch.
Dywedon nhw fod brawychiaeth “yn parhau i achosi poen a gofid enfawr”.