Byddai costau’n cynyddu a sefydlogrwydd ariannol yn dirywio pe bai Prydain a’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn methu dod i gytundeb tros ddiogelu masnachu rhydd, yn ôl pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi sydd o’r farn bod parhad masnachu agored yn dilyn Brexit o ddiddordeb i’r ddwy ochr.

Mae’r Is-Bwyllgor tros Faterion Ariannol yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn pwysleisio’r angen am gytundeb ar gyfnod o drawsnewid i Brydain wedi Brexit.

Yn ôl aelodau’r pwyllgor mi fyddai’n rhaid i fusnesau paratoi am “y gwaethaf” pe na bai cytundeb cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019.

Marchnadoedd agored

“Mae marchnadoedd agored a byd-eang o ddiddordeb i’r Deyrnas Unedig yn ogystal â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai’r pwyllgor.

“Wrth gytuno ar berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit, dylai’r ddwy ochr ffafrio sefyllfa derfynol lle byddai’r ddwy ochr yn medru manteisio ar farchnadoedd ei gilydd.”

“Pe bai segmentau newydd yn ymddangos yn y farchnad, mi fyddai prisiau yn cynyddu a byddai sefydlogrwydd ariannol yn dirywio.”