Mae pedwar o gyflwynwyr gwrywaidd mwyaf blaenllaw’r BBC wedi cytuno i dderbyn gostyngiad yn eu cyflogau yn dilyn anghydfod dros dal cyfartal, meddai’r gorfforaeth.

Yn ôl gwefan newyddion y BBC, mae Jeremy Vine, John Humphrys, Huw Edwards a Jon Sopel wedi cytuno, un ai yn ffurfiol neu mewn egwyddor, i’r gostyngiad.

Daw hyn ar ôl i olygydd y BBC yn China, Carrie Gracie, ymddiswyddo o’i rôl mewn protest yn erbyn yr anghyfartaledd mewn cyflogau. Mae hi wedi galw am roi’r un cyflog i ferched a dynion yn y gorfforaeth.

Y llynedd roedd y BBC wedi cyhoeddi rhestr o’r staff sy’n ennill cyflog o fwy na £150,000 gan ddatgelu gwahaniaeth mawr mewn cyflogau rhai o’r cyflwynwyr ac actorion gwrywaidd mwyaf adnabyddus o’i gymharu â’r menywod sy’n gwneud yr un gwaith.

Roedd cyflwynydd Radio 2 Chris Evans ar frig y rhestr gan ennill mwy na £2 miliwn tra bod y gyflwynwraig Claudia Winkleman yn ennill rhwng £450,000 a £499,999.