Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Mylee Billingham o Walsall.

Bu farw’r ferch wyth oed o ganlyniad i gael ei thrywanu unwaith yn ei brest, ac mae lle i gredu mai ei thad oedd yn gyfrifol.

Daeth cadarnhad gan Heddlu West Midlands fod dyn 54 oed yn y ddalfa, a’i fod bellach wedi’i amau o lofruddio ar ôl cael ei arestio’n wreiddiol ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd ar ôl iddo yntau gael ei drywanu hefyd, ac fe fydd yn cael ei holi maes o law.

Dywedodd yr heddlu ei fod e mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Mae archwiliad post-mortem wedi’i gynnal ar gorff y ferch fach.