Fe ddylai cleifion canser fod yn rhydd i gymryd ambell risg gyda’r driniaeth y maen nhw’n ei dewis, yn ol cyn-weinidog yn llywodraeth Lafur Tony Blair sydd bellach yn ymladd y clefyd.

Mae Tessa Jowell yn dioddef o ganser yr ymennydd, ac wrth siarad yn agored am ei chyflwr, mae wedi galw am fwy o gyfleoedd i gleifion allu dewis bod yn rhan o dreialon ar gyfer triniaethau newydd.

Os nad yw un yn gweithio, meddai, fe ddylai cleifion fod yn rhydd i benderfynu os ydyn nhw am symud ymlaen i’r nesaf.

“Dw i’n benderfynol o aros yn fyw,” meddai, wrth baratoi at draddodi araith i Dy’r Aglwyddi yfory (dydd Iau, Ionwr 25) ar wneud triniaethau newydd ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae canser yr ymennydd yn rhywbeth sy’n datblygu’n sydyn,” meddai. “Mae’n rhaid i chi allu dangos fod yna newid yn gyflym iawn… Mae yna dreialon yn digwydd sy’n siwtio’r math yma o ganser, ac fe ddylen nhw fod ar gael am ddim i ni gymryd mantais ohonyn nhw.

“Fe ddylai fod yn risg sy’n rhad ac am ddim. Fe ddylai pawb gael y cyfle i gymryd y risg, os mai dyna maen nhw’n ei ddymuno. Dyna’n union beth hoffwn i allu ei wneud. Dw i’n fodlon cymryd y risg.”