Mae’r Canghellor Philip Hammond wedi gwrthod galwadau gan Boris Johnson i roi £5 biliwn yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd.

Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor yr wythnos ddiwethaf ei fod yn credu y dylai’r Gwasanaeth Iechyd fod ar “frig y rhestr” wrth baratoi ar gyfer Brexit, ac mae disgwyl y bydd yn codi’r mater hwn mewn cyfarfod o’r Cabinet heddiw.

Ond mewn uwchgynhadledd ym Mrwsel heddiw, ymatebodd Philip Hammod trwy ddweud mai’r “Ysgrifennydd Tramor yw Mr [Boris] Johnson”, a’i fod eisoes wedi sicrhau rhagor o arian i’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, yn y Cyllid diwethaf.

“Dw i wedi rhoi £6 biliwn ychwanegol i’r Ysgrifennydd Iechyd yn y Cyllid diweddaraf,” meddai, “ac fe fyddwn ni’n ystyried sut mae’r adran yn rheoli hynny yn yr adolygiad o wariant nesaf – pan ddaw hwnnw.”