Bydd gallu’r Deyrnas Unedig i ymateb i fygythiadau yn “cael ei wanhau” os na fydd lluoedd arfog Prydain yn parhau i ddatblygu ar yr un cyflymder â’i “gelynion”.
Dyna yw rhybudd pennaeth y fyddin Brydeinig, y Cadfridog Nick Carter, mewn araith yn ddiweddarach ddydd Llun (Ionawr 22).
Bydd yn tynnu sylw at fygythiad nerth milwrol Rwsia ac yn dweud bod angen “paratoi i ddelio” â chystadlu rhyngwladol mewn meysydd newydd.
Ar ein stepen drws
“Mae’r bygythiadau yr ydym ni’n eu hwynebu ar stepen drws Ewrop – nid miloedd o filltiroedd i ffwrdd,” mae disgwyl iddo ddweud.
“Rydym wedi gweld sut mae rhyfela seibr yn digwydd ar faes y gad ac o fewn cyd-destunau mwy normal. Dydyn ni yn y Deyrnas Unedig ddim yn imiwn rhag hynna.”
Daw’r sylwadau yn sgil pryderon am doriadau i’r lluoedd arfog, a galwadau gan Aelodau Seneddol i gynyddu gwariant ar amddiffyn i 3% o gynnyrch domestig gros (GDP).