Mae dyn sy’n byw ar y stryd lle cafodd merch fach wyth oed ei thrywanu i farwolaeth yn Walsall, wedi dweud iddo glywed y geiriau “Fy mhartner wnaeth drywanu fy merch”.

Cafwyd hyd i’r ferch – sydd wedi’i henwi’n lleol fel Mylee Billingham – wedi’i hanafu nos Sadwrn, a chafodd ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae dyn 54 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r ferch fach – roedd yntau hefyd wedi cael ei drywanu yn ei stumog.

Cafodd Heddlu West Midlands eu galw i “ddigwyddiad domestig” toc ar ôl 9.15yh, ac fe gafodd ei dyn ei arestio cyn cael ei gludo i’r ysbyty, lle bydd yn cael ei holi maes o law.

Mae’r heddlu’n chwilio cartre’r dyn ar hyn o bryd. Mae lle i gredu bod y dyn sydd wedi’i arestio wedi bod yn byw yno am chwe mis, a’i fod yn byw ar ei ben ei hun.

Dywedodd y cymydog fod trigolion lleol “mewn sioc”.

Dydi’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.