Globaleiddio oedd un o’r prif resymau tros Brexit, yn ôl Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron.

Dywedodd y byddai Ffrainc fwy na thebyg yn gwneud yr un penderfyniad pe bai refferendwm yn cael ei gynnal.

Dywedodd fod “llawer o bobol wedi colli” o ganlyniad i globaleiddio, a bod pobol “wedi cael llond bol”.

Ychwanegodd fod pleidlais ‘Ie/Na’ yn “gymhleth” ac yn “risg”.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar BBC1: “Rydych chi bob amser yn cymryd risg yn y fath refferendwm, dim ond Ie neu Na mewn cyd-destun cymhleth iawn.”

Dywedodd fod pleidlais ‘Ie/Na’ yn “gamgymeriad mawr” a hynny heb wybod “sut i wella’r sefyllfa”.

Mae’n dadlau bod cyd-destun Ffrainc “yn wahanol iawn” i Brydain, er ei fod yn dweud y byddai’n brwydro’n galed er mwyn aros yn yr Undeb Ewropeaidd pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yn Ffrainc.