Mae merch wyth oed wedi cael ei thrywanu i farwolaeth yn Walsall yng nghanolbarth Lloegr.

Yn ôl Heddlu West Midlands, mae dyn 54 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio, ac mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl iddo yntau hefyd gael ei drywanu.

Cafwyd hyd i’r ferch wedi’i hanafu am oddeutu 9.15pm nos Sadwrn, a bu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un domestig, a dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall.

Mae teulu’r ferch yn derbyn cefnogaeth.