Mae dyfalu y gallai Nigel Farage ddychwelyd i arwain UKIP unwaith eto, wrth i’r blaid gyfarfod i drafod dyfodol Henry Bolton.

Mae disgwyl i’r blaid gynnal pleidlais hyder yn yr arweinydd heddiw, wythnos ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod ei gariad wedi bod yn anfon negeseuon hiliol.

Fe fu cryn bwysau ar i Henry Bolton ymddiswyddo ers i’w gariad, Jo Marney fod yn gwneud sylwadau hiliol am Meghan Markle, dyweddi’r Tywysog Harry ac am bobol groenddu ar y cyfan.

Mae Henry Bolton a Jo Marney wedi gwahanu ers hynny.

Pe bai Henry Bolton yn camu o’r neilltu, fe allai Nigel Farage ddychwelyd i’r swydd – y pedwerydd arweinydd o fewn 18 mis.

Byddai’n rhaid i swydd yr arweinydd gael ei phenderfynu gan aelodau, am nad oes gan Bwyllgor Cenedlaethol y blaid y grym i symud yr arweinydd o’i swydd.

Nigel Farage a Brexit

Camodd Nigel Farage o’r neilltu yn 2016, ac mae e wedi bod yn codi pryderon yn ddiweddar am sefyllfa Brexit.

Fe fu’n cyhuddo ymgyrchwyr o blaid gadael o fethu â phledio’u hachos tros adael yn dilyn y refferendwm.

Dywedodd yn y gorffennol y byddai’n awyddus i fod yn arweinydd unwaith eto pe na bai trafodaethau Brexit yn foddhaol.

Mae lle i gredu ei fod e’n ystyried sefydlu mudiad newydd i ymgyrchu am gytundeb tros Brexit.

Yn ôl adroddiadau, mae Jo Marney bellach wedi gadael y blaid ar ôl i honiadau newydd o anfon negeseuon hiliol ddod i’r amlwg.