Un o aelodau seneddol Gweriniaeth Iwerddon fydd yn cymryd lle Gerry Adams fel arweinydd Sinn Fein.

Mary Lou McDonald yw’r unig aelod a gafodd ei henwebu ar gyfer y swydd, ac mae disgwyl iddi gael ei chadarnhau fel arweinydd mewn cynhadledd arbennig o’r blaid ar Chwefror 10.

Cyhoeddodd Gerry Adams ym mis Tachwedd ei fod yn rhoi’r gorau iddo ar ôl 34 mlynedd fel arweinydd.

Mae Mary Lou McDonald wedi cynrychioli Canol Dulyn yn senedd Iwerddon, y Dail, ers 2011, a chyn hynny hi oedd Aelod Seneddol Ewropeaidd Sinn Fein cyntaf y Weriniaeth ar ôl cael ei hethol yn 2004.

Fel dirprwy lywydd Sinn Fein, hi oedd y ffefryn i olynu Gerry Adams ers peth amser.

Cafodd ei geni yn 1969 ac fe ddaw o gefndir gwahanol iawn i rai o wleidyddion blaenllaw eraill Sinn Fein.

Cafodd ei magu yn ardal lewyrchus Rathgar o Ddulyn, a’i haddysgu yn ysgol breifat Notre Dame yn y ddinas, cyn graddio yng Ngholeg y Drindod, Dulyn a phrifysgol Limerick.

Hi yw arweinydd benywaidd gyntaf ei phlaid.