Mae blaidd wedi dianc o warchodfa natur yn ne Lloegr.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 8yb heddiw, wedi i aelod o’r cyhoedd riportio fod y creadur wedi torri’n rhydd o barc yr UK Wolf Conservation Trust yn Reading.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Dyffryn Tafwys yn dweud fod swyddogion yn cadw llygad ar y blaidd, a’u bod nhw’n gweithio gydag aelodau staff y warchodfa er mwyn ceisio ei ddal.

Mae hefyd yn rhybuddio’r cyhoedd i beido â mynd yn agos at yr anifail.

Mae’r warchodfa yn Beenham wedi gwrthod gwneud sylw ar hyn o bryd.