Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn cadarnhau heddiw y bydd miliynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi er mwyn cryfhau rheolaeth y ffin rhwng y Deyrnas Unedig a Ffrainc.

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, gwrdd â Theresa May mewn uwchgynhadledd yn Sandhurst.

Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau mai £44.5m fydd y gost, ac fe fydd hwnnw’n cael ei wario ar ffensys diogelwch, camerâu CCTV a thechnoleg newydd, gan gryfhau’r rheolaeth dros y ffin yn Calais a phorthladdoedd eraill.

Ar drothwy’r gynhadledd, mae yna adroddiadau bod Emmanuel Macron wedi bod yn pwyso ar Brydain i wneud mwy o gyfraniad ariannol i’r rheolaeth dros y ffin, ynghyd â derbyn mwy o ffoaduriaid i’r wlad.

“Y bwriad yw buddsoddi a gwella diogelwch ffin y Deyrnas Unedig”, meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Yn union fel yr ydym ni’n buddsoddi yn ein ffiniau ledled gweddill y Deyrnas Unedig, mae dim ond yn iawn ein bod ni’n cadw golwg cyson ar sut y gallwn ni wneud y rheolaeth dros ffin y wlad yn Ffrainc a Gwlad Belg mor ddiogel â phosib.”