Mae David Miliband wedi rhybuddio Llywodraeth Prydain y dylai wneud mwy i fynd i’r afael â’r argyfwng dyngarol yn Syria.

Y rhyfel yn y wlad sy’n gyfrifol am yr argyfwng, yn ôl cyn-arweinydd y Blaid Lafur, sydd bellach yn bennaeth ar y Pwyllgor Achub Rhyngwladol, ac mae’n rhybuddio bod pobol gyffredin “yn cael eu bomio’n yfflon” gan luoedd Bashar Assad.

Ond fe ddywedodd fod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi cael eu symud i’r cyrion, a bod perygl y bydd yr argyfwng yn croesi’r ffin i wledydd cyfagos.

‘Cyfrifoldeb’

Wrth siarad â rhaglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd David Miliband: “Ni all fod yn iawn fod pobol gyffredin yn cael eu bomio’n yfflon heb fod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn chwarae unrhyw fath o rôl – cyn belled ag y gall unrhyw un weld, mae wedi cael ei yrru oddi yno.”

Wrth gyfeirio neges at Brif Weinidog Prydain, Theresa May a’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, dywedodd: “Dylai fod gan y Deyrnas Unedig bolisi tramor sy’n cyfateb i’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda bod yn aelod parhaol o’r Cyngor Diogelwch.

“Ar hyn o bryd, mae’r Cenhedloedd Unedig ar y cyrion pan ddaw i’r rhyfel mwyaf yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd, sef rhyfel Syria.

“All hynny ddim bod o les i’r rhanbarth nac ychwaith o les i’r byd ehangach, yn syml iawn, oherwydd un o’r gwersi o’r saith mlynedd diwethaf yn Syria yw nad yw’r un peth sy’n deillio o Syria yn aros yn Syria, ac mae’r ansefydlogrwydd yn cael ei allforio y tu hwnt i’w ffiniau, a heb gael eu cadw oddi mewn iddyn nhw.”