Mae timau achub mynydd wedi gorfod rhoi cymorth i deithwyr yn yr Alban yn dilyn eira mawr.

Roedd teithwyr ar y draffordd M74 yn Swydd Lanark wedi gorfod wynebu oedi mawr trwy gydol y nos oherwydd rhew ac eira.

Ond erbyn hyn, mae’r awdurdodau wedi dweud bod y M74 ar agor ar y ddwy ffordd, a hynny ar ôl ymdrechion gan dimau achub mynydd i gynorthwyo teithwyr trwy’r oriau mân.

Ond maen nhw’n rhybuddio bod cyflwr y lon, yn “dilyn noson anodd iawn”, yn parhau i fod yn “heriol”.