Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi galw am gyfarfod o’r Cabinet heddiw, a hynny er mwyn trafod cwymp y cwmni adeiladu a gwasanaethau cyhoeddus, Carillion.

Mae penaethiaid y cwmni ar hyn o byd yn wynebu archwiliad wrth i gwymp y cwmni roi miloedd o swyddi yn y fantol – gyda 20,000 o staff yn cael eu cyflogi gan y cwmni yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cael ei beirniadu am beidio ag ymyrryd i geisio atal y cwmni rhag mynd i’r wal.

Cafodd Carillion ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr dros y penwythnos, er gwaetha’r galwadau ar y Llywodraeth i fuddsoddi £20m i’w achub.

“Mynd yn eithaf da”

Ond ar ôl cyfarfod brys o’r pwyllgor cynllunio, Cobra, neithiwr (nos Lun), fe ddywedodd David Lidington, y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet, fod ymdrechion i ddeilio â’r argyfwng yn “mynd yn eithaf da”.

“Y neges heddiw yw bod y diwrnod cyntaf wedi mynd yn eithaf da, gyda phobol yn mynd i’w gwaith”, meddai David Lidington. “Ac ni wnaethon ni dderbyn adroddiadau am unrhyw aflonyddu ar wasanaethau.”