Mae Ysgrifennydd Diwylliant newydd San Steffan, Matt Hancock wedi awgrymu y gallai’r BBC gyflwyno cap newydd a allai osod cyflogau staff ar yr un lefel â Phrif Weinidog Prydain.

Dywedodd fod y Gorfforaeth wedi “colli cyfle” blaenorol i gyflwyno’r cap, ond fe rybuddiodd ar yr un pryd na ddylid cyflwyno mesurau rheoleiddio llymach.

Daw ei sylwadau ar ôl i Olygydd China y BBC, Carrie Gracie ymddiswyddo tros y bwlch cyflogau rhwng dynion a menywod.

Ffigurau’r BBC

Yn ôl ffigurau’r BBC, fe dderbyniodd Golygydd Gogledd America, Jon Sopel gyflog o £200,000-£249,999 tra bod Carrie Gracie wedi derbyn £135,000 cyn cael £45,000 o godiad cyflog – ond fe wnaeth hi ei wrthod.

Mae’r Cymro John Humphrys wedi cael ei feirniadu am fideo sydd wedi’i gyhoeddi ohono fe a John Sopel yn chwerthin am y bwlch cyflogau – mae yntau’n derbyn rhwng £600,000 a £649,999.

Dywedodd Matt Hancock wrth raglen Peston on Sunday ar ITV ei fod yn fater o “gyflog cyfartal a lefel resymol”, a bod hynny’n golygu na ddylai “pobol sy’n cael eu cyflogi drwy ddefnyddio arian y trethdalwyr dderbyn mwy o dâl na’r Prif Weinidog”.

Dywedodd y byddai’n trafod y mater â Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Tony Hall dros yr wythnosau nesaf.