Mae mam James Bulger, bachgen dwy oed a gafodd ei gipio a’i lofruddio yn 1993, wedi dweud ei bod hi wedi ystyried lladd ei hun ar ôl colli ei mab.

Mae Denise Fergus wedi bod yn trafod achlysur pen-blwydd eu mab yn dair oed, pan oedd hi “wedi cyrraedd y gwaelod”.

Cafodd James ei gipio o ganolfan siopa yn Lerpwl gan Jon Venables a Robert Thompson ym mis Chwefror 1993.

Mae darnau o’i hunangofiant, I Let Him Go, yn cael eu cyhoeddi gan y Mail on Sunday ar hyn o bryd.

Yn y darn sydd wedi’i gyhoeddi heddiw, dywed: “Dw i’n credu ein bod ni’n dau [hi a’i gŵr] wedi cyrraedd y gwaelod, ro’n i’n sicr yn teimlo fel pe na bai gen i unman i gwympo ymhellach.

“A wnes i drio lladd fy hun? Ddim cweit. A wnes i feddwl am ladd fy hun? Yn sicr. Yn aml iawn, ac mewn llawer o fanylder.”

Bai

Dywed fod ei thristwch yn fwy dwys am fod ei gŵr yn gweld bai arni hi am ollwng llaw eu mab cyn iddo fynd ar goll.

Roedd Jon Venables a Robert Thompson, ill dau, yn ddeg oed ar y pryd.

Cawson nhw eu carcharu am oes, ond fe gawson nhw eu rhyddhau ar drwydded yn 2001, gan dderbyn hunaniaeth newydd gan yr awdurdodau.

Dywedodd fod teuluoedd y ddau yn “gwenu a chwerthin” wrth gyfathrebu â’r ddau yn ystod yr achos llys.

Ychwanegodd nad oedd hi wedi gallu mynd i siopa ar ei phen ei hun ers colli ei mab.

Cafodd Jon Venables ei gyhuddo’r mis yma o fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant – a hynny am yr ail dro.