Mae cynnig o £66,000 wedi ei wneud am wobr Brit aelod o S Club 7.

Fe gafodd Paul Cattermole y Brit yn 2000 pan ddewiswyd ei fand yn grŵp newydd gorau.

Mae’r canwr bellach yn 40 oed ac wedi rhoi’r wobr ar eBay a gwahodd cynigion i’w brynu.

Nid oedd Paul Cattermole yn disgwyl i’r wobr hawlio’r fath swm o arian, ac mae wedi addo mynd i gyfarfod y sawl sy’n ei brynu.

Mae yn gwerthu’r Brit er mwyn talu bils, meddai.