Mae dynes, sydd â’i thad ar goll ers blynyddoedd, wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth ar ôl dweud wrth yr heddlu ei bod wedi lladd dyn ac wedi claddu ei gorff yn ei gardd.
Mae Barbara Coombes, 63, o Stockport ger Manceinion, wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth, atal claddedigaeth gyfreithiol, twyll ac o gael buddiant ariannol.
Does neb wedi gweld ei thad, Kenneth Coombes, ers tua 10-15 mlynedd. Byddai wedi bod yn ei 80au hwyr yn 2005.
Ddydd Sul diwethaf, fe ddywedodd Barbara Coombes wrth yr heddlu ei bod wedi lladd dyn, ac fe aeth yr heddlu i gloddio yn ei gardd lle cawson nhw hyd i weddillion dynol.
Fe fydd hi’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion a Salford fore heddiw.
Does dim cadarnhad eto ai gweddillion Kenneth Coombes yw’r rhai a gafodd eu canfod yng ngardd Barbara Coombes.