Mae dyn ifanc wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddio, yn dilyn marwolaeth dyn 18 oed ar ol cwffas honedig yn ne-ddwyrain Llundain.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r dioddefwr wedi’i anafu mewn gardd ty yn Chiselhurst toc cyn 9yh nos Fawrth. Bu farw yn yr ysbyty fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 10).

Mae Heddlu’r Met wedi cadarnhau bod dyn 18 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa brynhawn Mercher, a’i fod yn cael ei gadw yn un o’u gorsafoedd yn ne Llundain.

Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill yn dilyn marwolaeth y dyn.