Mae bachgen 16 oed wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio siopwr yng ngogledd Llundain.

Fe gafodd y bachgen – na ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol – ei arestio ddydd Llun yn dilyn marwolaeth Vijay Patel, 49, yn Mill Hill.

Mae wedi ymddangos yn Llys Ynadon Willesden fore heddiw, ac mae disgwyl iddo ymddangos nesaf yn yr Old Bailey ar Ionawr 12.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn siop Rota Express yn Mill Hill tua 11.45yh ddydd Sadwrn (Ionawr 6), a bu farw Vijay Patel, tad i ddau, drannoeth.