Mae’r fyddin wedi lansio ymgyrch newydd gwerth £1.6 miliwn i ddenu aelodau newydd o amryw o gefndiroedd.

Fe fydd hysbysebion newydd yn cael eu darlledu ar y teledu, radio a llwyfannau digidol ac yn annog pobol o nifer o rywiau, rhywioldebau a chrefyddau i ymuno â nhw.

Fe fydd cyfres o gwestiynau’n cael eu gofyn yn yr hysbysebion, gan gynnwys, “A allaf fod yn hoyw yn y fyddin?” ac “A allaf arfer fy ffydd yn y fyddin?”

Yn ystod yr hysbyseb, mae meddyg hoyw yn trafod ei bryderon am ymuno â’r fyddin ond yna’n dweud ei fod e wedi cael ei dderbyn.

Ail-frandio

Daw’r hysbyseb newydd wythnosau’n unig ar ôl i’r fyddin gefnu ar gynlluniau i ailfrandio – ffrae y bu’n rhaid i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson ymyrryd ynddi.

Yn ôl ymchwil, roedd lle i gredu bod y slogan traddodiadol “Byddwch y gorau” yn henffasiwn ac yn elitaidd, a bod angen ei ddiweddaru.

Mae cyn-filwr, yr Uwchgapten Frigadydd Tim Cross wedi dweud ei fod o blaid yr ymgyrch newydd, ond fod rhaid bod yn ofalus nad yw safonau’n gostwng drwy geisio recriwtio o gefndiroedd rhy eang.

Dywedodd wrth raglen Today ar Radio 4 fod “rhaid sicrhau ein bod yn estyn allan i bobol, rhaid sicrhau bod pawb yn gwybod fod ganddyn nhw gyfle i ymuno â’r lluoedd arfog Prydeinig ac i ymuno â’r fyddin yn enwedig, ond fyddwn ni ddim yn meddalu a fyddwn ni ddim yn neis wrth bobol.”

Rhybudd

Ond mae’r Cyrnol Richard Kemp yn rhybuddio nad yw’r hysbyseb yn canolbwyntio ar y prif garfan o bobol sy’n dod yn recriwtiaid, ac na fyddai’r hysbyseb yn “datrys yr argyfwng recriwtio”.

Rhybuddiodd fod y lluoedd arfog yn cael eu gorfodi i fod yn “wleidyddol gywir”.

“Yr hyn sydd bwysicaf yw fod y fyddin yn recriwtio ac yn llawn milwyr. Pwysigrwydd eilradd sydd i’r ffaith eu bod yn adlewyrchu gwneuthuriad y gymdeithas.”