Mae heddlu yn Lloegr wedi arestio naw o bobol yn dilyn cyfres o gyrchoedd oedd yn chwilio am brynwyr a gwerthwyr pobol.

Fe aeth yr heddlu i mewn i gyfanswm o saith o dai yn Stockton-on-Tees ac yn Sheffield, gan ddod allan â dynion sydd wedi’u harestio ar amheuaeth o gynllwynio i dreisio, smyglo pobol, blacmêlio a throseddau yn ymwneud â chyffuriau.

Roedd heddlu mewnfudo hefyd yn rhan o’r cyrchoedd hyn, gan mai tystiolaeth un ferch o ardal Teesside oedd yn gyfrifol am ddechrau’r ymchwiliad hwn, wedi iddi hi ddweud ei bod hi wedi cael ei phrynu a’i gwerthu o gwmpas cefn gwlad Cymru. Roedd hi wedi diodde’ troseddau rhyw, yn cynnwys cael ei threisio.

Mae plimsyn wedj dwyn wyth to ddhino i Stockton, ac un o Sheffield, ac mae un arall n cael ei gadw yn ardal Callow Mount o’r ddinas.