Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, dan bwysau gan Aelodau Seneddol ei phlaid ei hun i ddangos rhagor o ddewrder gwleidyddol wrth ad-drefnu ei gweinidogion heddiw.

Honnodd rhai ei bod wedi gwneud cawlach wrth ad-drefnu ei Chabinet ddoe, wedi i’r Ysgrifennydd Addysg Justine Greening ymddiswyddo yn hytrach na symud i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Roedd adroddiadau hefyd bod yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, wedi gwrthod gadael yr adran wedi i Theresa May gynnig swydd Ysgrifennydd Busnes iddo.

Trydarodd Syr Nicholas Soames nad oedd am fod yn “ddigywilydd” neu’n “anffyddlon” ond y byddai angen “gwelliant sylweddol yn yr ad-drefnu” y mae Theresa May am ei wneud heddiw.

Bu cyn-Gadeirydd y Ceidwadwyr, Grant Shapps, yn fwy llym ei dafod gan ddweud wrth raglen Newsnight y BBC: “A bod yn gwbwl ddi-flewyn ar dafod, doedd yr ad-drefnu heddiw ddim yn berfformiad o safon uchel.”

Twît

Fe ddechreuodd yr ad-drefnu ddoe ar y nodyn anghywir wrth i gyfrif Trydar swyddogol y Ceidwadwyr gyhoeddi ar gam mai Chris Grayling oedd cadeirydd newydd y Ceidwadwyr. Brandon Lewis oedd dewis Theresa May, mewn gwirionedd.

Bu dryswch pellach ar y gwefannau cymdeithasol wedi i Jeremy Hunt ‘hoffi’ trydariad oedd yn datgan fod Justine Greening wedi gadael y llywodraeth.

“Gwasgwyd y botwm drwy gamgymeriad,” meddai. “Roedd Justine yn weinidog penigamp, ac mae’n golled fawr i’r llywodraeth.”

Aros mae’r ‘pedwar mawr’

  • Canghellor y Trysorlys – Philip Hammond
  • Ysgrifennydd Tramor – Boris Johnson
  • Ysgrifennydd Cartref – Amber Rudd
  • Ysgrifennydd Brexit – David Davis