Mae Theresa May wedi cadw aelodau blaenllaw’r Llywodraeth yn eu swyddi wrth iddi ad-drefnu ei Chabinet.

Cafodd yr ad-drefnu ei orfodi gan ymddiswyddiad y cyn-Ysgrifennydd Gwladol  Damian Green fis diwethaf ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi dweud celwydd am y pornograffi ar ei gyfrifiadur swyddfa.

Mae’r cyn-ysgrifennydd Cyfiawnder David Lidington wedi’i benodi yn Weinidog Swyddfa’r Cabinet gan olynu Damian Green.

Ond ni fydd yn dwyn y teitl Ysgrifennydd Gwladol sydd, i bob pwrpas, yn golygu bod yn ddirprwy i Theresa May.

Mae’n debyg nad yw Theresa May yn bwriadu penodi prif Ysgrifennydd Gwladol.

Cadarnhaodd Downing Street bod y Canghellor Philip Hammond, Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson, Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd ac Ysgrifennydd Brexit David Davis i gyd yn cadw eu swyddi presennol. Mae Jeremy Hunt hefyd yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Iechyd.

Ond mae James Brokenshire, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon wedi ymddiswyddo o’r Cabinet ar sail ei iechyd, ychydig wythnosau cyn iddo gael llawdriniaeth.

Dywedodd Theresa May y byddai’r drws yn agored iddo ddychwelyd i’r Llywodraeth, gan ddweud wrtho mewn llythyr ei bod yn edrych ymlaen at “weithio ochr yn ochr â chi eto pan fyddwch chi’n ôl i’ch iechyd llawn.”

Cadeirydd newydd

Mae Brandon Lewis wedi cael ei benodi yn gadeirydd newydd y blaid gan ddisodli Syr Patrick McLoughlin, a gafodd ei ddiswyddo yn dilyn beirniadaeth o’i rôl ym mherfformiad gwael y Ceidwadwyr yn yr etholiad brys y llynedd.

Dywedodd y cyn-weinidog mewnfudo, sydd hefyd yn dwyn y teitl gweinidog heb bortffolio, ei fod yn “anrhydedd” i fod yn gadeirydd y blaid, lai nag wyth mlynedd ar ôl cyrraedd Tŷ’r Cyffredin fel AS dros Great Yarmouth yn 2010.

Cyhoeddi ar gam

Bu’r Ceidwadwyr yn destun gwawd ymhlith y pleidiau eraill ar ôl i gyfrif Twitter swyddogol y blaid gyhoeddi’n anghywir mai Chris Grayling oedd wedi cael ei benodi’n gadeirydd. Mae’n debyg mai cyfarwyddwr gwleidyddiol CCHQ Iain Carter oedd wedi anfon y trydariad drwy gamgymeriad, meddai ffynhonnell.

Yn fuan wedyn bu’n rhaid tynnu neges arall yn cyhoeddi penodiad Brandon Lewis am fod y gair “portffolio” wedi cael ei gam-sillafu.

Parhau mae’r dyfalu yn San Steffan fod nifer o enwau mawr ar eu ffordd allan o’r Cabinet, gyda swyddi’r Ysgrifennydd Addysg, Justine Greening, yr Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark ac Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom, yn y fantol.

Yn y cyfamser, mae Sajid Javid wedi cael cyfrifoldeb ychwanegol, wrth i’r cyfrifoldeb am dai gael ei ychwanegu at ei deitl presennol yn y Cabinet. Mae bellach yn Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae Theresa May wedi awgrymu ei bod yn edrych tua’r dyfodol gan ddod a gwaed newydd i mewn i’r Cabinet. Mae hi’n bwriadu penodi rhagor o weinidogion ifanc a rhai o gefndiroedd ethnig er mwyn apelio at ystod eang o etholwyr.