Mae’r cyn-hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell wedi pledio’n euog i saith cyhuddiad o gyflawni troseddau rhyw.

Ar ddechrau’r achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Lerpwl, fe blediodd yn euog i’r cyhuddiadau o ymosod yn anweddus. Mae’r saith cyhuddiad yn ymwneud a thri dioddefwr ac fe ddigwyddodd y troseddau rhwng 1981 a 1991 pan oedan nhw’n rhwng 11 a 14 oed.

Mae disgwyl i’r cyn-hyfforddwr gyda Crewe Alexandra, sy’n 63 oed, hefyd sefyll ei brawf ar gyhuddiad o  48 o droseddau gan gynnwys 35 achos o ymosod yn anweddus.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud a 11 achwynydd a honnir eu bod wedi digwydd yn y 1970au a’r 1980au pan oedd y dioddefwyr honedig rhwng wyth a 15 oed.

Fe ymddangosodd Barry Bennell drwy gyswllt fideo. Mae disgwyl i’r rheithgor yn yr achos gael eu penodi yn ddiweddarach ddydd Llun.