Yn dilyn cwymp mewn gwerthiant dros yr ŵyl, mae gwerth cyfranddaliadau Mothercare wedi disgyn heddiw, gyda gwariant defnyddwyr yn disgyn yn y siop ac ar-lein.

Dywedodd y grŵp fod gwerthiant yn y Deyrnas Unedig wedi plymio 7.2% yn y 12 wythnos hyd at 30 Rhagfyr, tra bod gwerthiant ar-lein wedi tyfu 6.9%.

O ganlyniad, mae Mothercare nawr yn disgwyl y bydd elw’r grŵp wedi’i addasu am y flwyddyn yn debygol o fod tua  £1 miliwn i £5 miliwn.

Mae hyn i lawr o amcangyfrifon blaenorol o tua £10 miliwn.

Disgynnodd y cyfranddaliadau yn dilyn y newyddion, gan ostwng dros 24% i 47c yng nghanol y bore.

Meddai Mark Newton-Jones, Prif Weithredwr y cwmni: “Wrth symud ymlaen, nid ydym yn rhagweld unrhyw welliant yn amodau tymor byr y farchnad yn y Deyrnas Unedig.”

Ychwanegodd fod Mothercare wedi ceisio cadw prisiau llawn i amddiffyn ei “safle brand” cyn y Nadolig, ond yna dechreuodd ostwng yn drwm, sydd wedi erydu ymylon elw’r grŵp.

Cyfnod heriol

Disgynnodd gwerthiant y grŵp 2.4% wrth i’r cwmni ddweud bod masnach ryngwladol yn “heriol”. Mae’r cwmni’n gweithio i ostwng cyfanswm nifer y siopau yn y Deyrnas Unedig i rhwng 80 a 100 o 143, yn dilyn cau nifer o leoliadau dros y naw mis diwethaf fel rhan o’r cynlluniau hynny.

Daw’r canlyniadau wrth i gwmnïau gwledydd Prydain baratoi i ddatgelu eu ffigurau masnachu Nadolig yr wythnos hon mewn arwyddion cymysg ar y stryd fawr.

Mae Tesco, Sainsbury’s a Marks & Spencer ymhlith rhai o fanwerthwyr i adrodd i’r farchnad yn dilyn dangosiad cryf gan Next a rhybudd am elw gan Debenhams