Mae un o brif olygyddion y BBC wedi gadael ei swydd, gan honni bod yna anghyfartaledd yn bodoli rhwng merched a dynion o ran cyflogau.

 

Fe wnaeth Carrie Gracie, sy’n olygydd y BBC yn China, gyhoeddi mewn llythyr agored at y gwylwyr, ei bod wedi penderfynu gadael y Gorfforaeth, gan honni bod dwy ran o bob tair o’r rheiny sy’n ennill cyflog o dros £150,000 yn ddynion.

 

Yn y llythyr, mae Carrie Gracie yn dweud bod yna “ddiwylliant cyflogau cyfrinachol ac anghyfreithlon” yn bodoli o fewn y BBC, a’i bod yn teimlo ei bod yn “ddyletswydd arni” i hysbysu’r cyhoedd fod y BBC yn torri’r ddeddf gydraddoldeb.

 

“Yn y 30 mlynedd rydw i wedi bod gyda’r BBC, dw i byth wedi ceisio gwneud fy hun yn stori na beirniadu’r sefydliad yr ydw i yn ei garu yn gyhoeddus,” meddai Carrie Gracie.

 

“Dydw i ddim yn gofyn am ragor o arian. Rydw i’n credu fy mod i’r cael fy nhalu’n dda yn barod – yn enwedig i rywun sy’n gweithio i sefydliad cyhoeddus.

 

“Yr hyn dw i eisiau yw bod y BBC yn parchu’r gyfraith ac yn trin dynion a merched yn gyfartal.”

Ymateb y BBC

Yn ôl llefarydd ar ran y BBC, dywedodd fod y gorfforaeth yn perfformio’n “well” na’r gyfartaledd genedlaethol o ran cydraddoldeb tâl rhwng dynion a merched.

Dywedodd hefyd eu bod nhw eisoes wedi cynnal ymchwil annibynnol a oedd yn dangos nad oedd yna “wahaniaethu yn erbyn merched” o fewn y gorfforaeth, ac y bydd adroddiad arall yn benodol ar gyfer staff sy’n darlledu yn cael ei gyhoeddi yn y “dyfodol agos”.