Mae disgwyl i Theresa May ad-drefnu ei Chabinet heddiw gan wneud y newidiadau mwyaf sylweddol ers iddi ddod i Downing Street yn 2016.

Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd tua hanner dwsin o uwch weinidogion yn cael eu diswyddo neu eu symud ac y gallai’r ad-drefnu o weinidogion eraill barhau tan ddydd Mawrth.

Fe fydd prif aelodau’r Llywodraeth – Y Canghellor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson, yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd a’r Ysgrifennydd Brexit David Davis – yn parhau yn eu swyddi.

Serch hynny mae ’na awgrymiadau nad oes sicrwydd am swyddi’r Ysgrifennydd Addysg Justine Greening, cadeirydd y Blaid Geidwadol Syr Patrick McLoughlin, yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark ac arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom.

Un o’r penodiadau cyntaf gan Theresa May fydd dewis olynydd i’r cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green a gafodd ei orfodi i ymddiswyddo fis diwethaf ar ôl cyfaddef ei fod wedi dweud celwydd dros honiadau bod deunydd pornograffig wedi cael ei ddarganfod ar ei gyfrifiadur yn y Senedd yn ystod cyrch gan yr heddlu yn 2008.

Yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt sy’n cael ei weld fel y ffefryn i’w olynu ond mae’n bosib na fydd hyn yn bosib ar hyn o bryd yn sgil yr argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd, gyda degau ar filoedd o lawdriniaethau’n cael eu canslo.

Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, yw’r enw arall sy’n cael ei grybwyll.