Mae disgwyl i ddarn o faner Jac yr Undeb oedd yn chwifio ar long yr Arglwydd Nelson, HMS Victory gael ei werthu am hyd at £100,000 mewn ocsiwn.
Daw’r darn oddi ar y llong yr oedd yn hwylio arni adeg brwydr enwog Trafalgar yn 1805 yn erbyn Ffrainc a Sbaen pan gafodd ei saethu’n farw.
Bydd yn cael ei werthu mewn ocsiwn yn Sotheby’s yn Llundain.
Mae’n un o nifer o eitemau’r Arglwydd Nelson fydd yn cael eu gwerthu.
Ymhlith y casgliad mae crochenwaith, llythyrau i’w gariad Emma Hamilton a phortread ohoni gan Gavin Hamilton.
Mae 256 o eitemau ar werth i gyd.
‘Arwr Prydain’
Dywedodd llefarydd ar ran Sotheby’s ei fod e “wrth ei fodd” fod eitemau “arwr Prydain” yn cael eu gwerthu gan y cwmni.