Mae’n rhaid i annibyniaeth “barhau’n opsiwn” i’r Alban yn wyneb Brexit, yn ôl prif weinidog y wlad, Nicola Sturgeon.

Galwodd hi am “ysbryd newydd o gadernid Albanaidd” er mwyn ymateb i heriau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn erthygl yn y Sunday Mail, dywedodd: “Mae potensial i’r flwyddyn sydd o’n blaenau fod yn un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn hanes diweddar yr Alban.

“Dw i’n credu y bydd yn flwyddyn pan fydd Alban newydd yn parhau i ymddangos yn genedl bowld, fwy hyderus a chadarn.

“Efallai nad dyna’r casgliad amlycaf o’r sioe frawychus hon o gynlluniau Brexit annigonol ac anhrefnus y Torïaid, sy’n bygwth gwneud niwed mawr a hirdymor i’n heconomi a’n cymdeithas.

“Ond oherwydd cysgod y bygythiad hwnnw rwy’n credu bod angen ysbryd newydd o gadernid Albanaidd ac y daw i’r amlwg.”

Dyfodol yr Alban

Ategodd ei sylwadau y byddai’n craffu ar gytundeb Brexit cyn penderfynu beth fyddai’r camau nesaf o safbwynt ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

“Fodd bynnag, rwy wedi egluro o’r cychwyn fod y bygythiad i les yr Alban yn golygu bod rhaid i annibyniaeth barhau’n opsiwn.”

Dywedodd y byddai ei phlaid yn parhau i wrthwynebu ‘Brexit caled’ sy’n tynnu Prydain allan o’r farchnad sengl a’r undeb dollau.

Ond mae’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Nicola Sturgeon o “dorri ei haddewid” ynghylch annibyniaeth.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Albanaidd, John Lamont: “Ar ôl yr etholiad cyffredinol y llynedd, addawodd Nicola Sturgeon y byddai’n rhoi ei chynlluniau ar gyfer annibyniaeth o’r neilltu a chanolbwyntio ar ei gwaith.

“Mae’n amlwg o’i geiriau heddiw ei bod hi’n bwriadu torri’r addewid o fewn misoedd ac unwaith eto, ei bod hi am roi annibyniaeth ar frig ei hagenda.”