Fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May ddim yn rhoi pleidlais rydd i’r Ceidwadwyr ar fater gwaharddiad hela llwynogod, yn groes i’w haddewid maniffesto.

Yn ôl deddfwriaeth a gafodd ei chyflwyno gan Lafur yn 2004, mae’n anghyfreithlon hela â chŵn yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd hi wrth raglen Andrew Marr y BBC na fyddai’r mater yn cael sylw yn ystod y cyfnod seneddol hwn, er i Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove flaenoriaethu lles anifeiliaid ers iddo gael ei benodi fis Mehefin.

Beirniadu

Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn wedi beirniadu Theresa May droeon am ddweud yn ystod yr etholiad ei bod hi o blaid hela llwynogod.

Roedd Theresa May wedi addo y byddai Aelodau Seneddol yn cael rhwydd hynt i bleidleisio sut bynnag yr oedden nhw’n dymuno er mwyn rhoi digon o amser i benderfynu ar ddyfodol Deddf Hela 2004.

Ond dywedodd wrth y BBC: “Fel prif weinidog, nid beth dw i’n meddwl am rywbeth yw fy ngwaith i, mae’n bwysig hefyd edrych ar farn y wlad.

“Dw i’n credu bod neges glir am hynny a dyna pam rwy’n dweud na fydd pleidlais ar hela llwynogod yn ystod y senedd hon.”

Croesawu’r penderfyniad

Dywedodd ymgyrchydd hawliau anifeiliaid: “Mae hela’n arfer farbaraidd sy’n dal yn gweld bywyd gwyllt Prydain yn cael ei rwygo’n ddarnau gan lwyth o gŵn.

“Mae’n ymddangos bellach fod y Llywodraeth yn derbyn na ddylai campau creulon fod yn rhan o gymdeithas yr unfed ganrif ar hugain, felly mae’n dda gwybod na fyddan nhw’n ceisio’i gyfreithloni eto yn ystod y Senedd hon, er y gallen nhw drio eto yn ystod yr un nesaf.”