Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron dan y lach am y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin ag achos y treisiwr a’r gyrrwr tacsi, John Worboys.

Maen nhw wedi cael eu beirniadu am nad oedden nhw wedi ymchwilio i ragor o honiadau yn ei erbyn.

Cafodd y dyn 60 oed ei ryddhau o’r carchar naw mlynedd ar ôl cael ei garcharu, ac mae’r penderfyniad hwnnw wedi ennyn dicter teuluoedd y rhai y gwnaeth e ymosod arnyn nhw.

Roedd 102 o gwynion yn ei erbyn, ond doedd dim ymchwiliad i rai ohonyn nhw.

Cafwyd e’n euog o 19 cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar 12 o fenywod ar ôl rhoi cyffuriau iddyn nhw, ac un cyhuddiad o dreisio.

Eglurodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod nhw wedi ei gyhuddo o droseddau lle’r oedd “gobaith realistig” o’i gael yn euog.

‘Wfftio’

Ond mae dynes sy’n dweud iddi osgoi ymosodiad, yn dweud bod yr heddlu wedi wfftio’i phryderon pan aeth hi atyn nhw i adrodd am yr hyn oedd wedi digwydd iddi yn 2002.

Mewn erthygl ym mhapur newydd i, dywedodd Hannah Roberts bod chwe blynedd wedi mynd heibio cyn iddi gael y cyfle i adnabod John Worboys yn ffurfiol a gwneud datganiad.

Mae hi wedi cyhuddo’r heddlu o “anwybyddu” pryderon nifer o fenywod, neu o fethu â chredu’r hyn yr oedden nhw wedi ei ddweud wrthyn nhw.

Dywedodd fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gorfod gwneud penderfyniad rhwng “cyfiawnder i ddioddefwyr a llyffetheirio’r llysoedd am flynyddoedd”.

Prawf tystiolaeth

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, roedd 83 o fenywod wedi gwneud honiadau erbyn i John Worboys gael ei ganfod yn euog, ac fe ddaeth 19 yn rhagor ymlaen ar ôl hynny.

Ond doedd rhai o’r achosion “ddim wedi pasio’r prawf tystiolaeth”, oedd yn golygu nad oedd hi’n debygol y byddai’n cael ei ganfod yn euog.

Dydy John Worboys ddim yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd, ac mae’r cyn-Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Syr Kier Starmer wedi annog menywod i fynd at yr heddlu os oes ganddyn nhw bryderon am John Worboys.

Mae’r Bwrdd Parôl wedi ymddiheuro am fethu â rhoi gwybod i rai menywod fod John Worboys yn cael ei ryddhau o’r carchar.