Mae ’na alw ar y Bwrdd Parôl i gyhoeddi ei resymau ar unwaith dros rydau’r troseddwr rhyw John Worboys o’r carchar, yn ôl cadeirydd pwyllgor seneddol.

Dywedodd Yvette Cooper, cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref, ei bod wedi’i “synnu” gan y penderfyniad ac wedi galw am graffu ar resymau’r Bwrdd Parôl cyn i’r troseddwr rhyw gael ei ryddhau o’r carchar.

Cafodd y cyn-yrrwr tacsi yn Llundain ei garcharu am gyfnod amhenodol yn 2009, gydag isafswm o wyth mlynedd dan glo, am roi cyffuriau i 12 o ferched oedd yn teithio yn ei dacsi cyn ymosod yn rhywiol arnyn nhw.

Erbyn hyn, mae ’na ofnau y gallai John Worboys, 60, fod wedi ymosod ar fwy na 100 o ferched ar ôl i ragor o ddioddefwyr honedig fynd at yr heddlu yn ystod yr achos.

“Cwestiynau difrifol”

Mae penderfyniad y Bwrdd Parôl, a gyhoeddwyd ddydd Iau, wedi ennyn ymateb chwyrn gan elusennau a grwpiau cymorth.

Meddai Yvette Cooper bod penderfyniad y Bwrdd Parôl yn “codi cwestiynau difrifol” .

“O ystyried difrifoldeb yr achos, fe ddylai’r Bwrdd Parôl gyhoeddi eu rhesymau ar unwaith fel bod modd craffu ar y penderfyniad a’r broses cyn i’r dyn yma gael ei ryddhau.

“Mae angen i ni wybod hefyd pa wybodaeth a chymorth gafodd eu rhoi i’r holl ddioddefwyr cyn i’r penderfyniad yma gael ei wneud,” meddai.

Mae Syr Keir Starmer, y cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus ar y pryd, dan bwysau i egluro pam na chafodd ymchwiliad ei gynnal i’r honiadau pellach yn erbyn John Worboys.