Mae Prif Weinidog Prydain yn anghytuno gydag arweinydd cyngor Ceidwadol ynglyn â “chlirio” pobol ddigartref oddi ar strydoedd Windsor ar drothwy’r briodas frenhinol.

Fe ddywedodd Simon Dudley, arweinydd Cyngor Windsor, ar y cyfryngau cymdeithasol y byddai’r rheiny sy’n cysgu ar strydoedd y dref yn “taflu goleuni gwael” pan fydd y Tywysog Harri yn priodi’r actores Americanaidd, Meghan Markle, ym  mis Mai eleni.

Roedd hefyd wedi anfon llythyr at yr heddlu yn cwyno bod nifer o’r digartref yn “cardota’n ymosodol” ac yn gadael sbwriel ar y strydoedd.

Dylai cynghorau “weithio’n galed” dros y digartref

Ond pan gafodd Theresa May ei holi ynghylch y sylwadau hyn, dywedodd ei bod hi’n “anghytuno” gyda arweinydd y cyngor.

“Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig bod cynghorau’n gweithio’n galed i sicrhau ei bod nhw’n darparu llety i’r bobol hyn sy’n ddigartref,” meddai.

“A lle mae yna broblemau gyda phobol yn cardota’n ymosodol ar y strydoedd, yna mae’n bwysig bod cynghorau’n gweithio gyda’r heddlu i ddeilo gyda’r cardota ymosodol hwnnw.”