Fe fydd ffermwyr Prydain yn derbyn yr un cymorthdaliadau ag y maen nhw’n ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd am bum mlynedd ar ôl Brexit, yn ôl Michael Gove.

Mae disgwyl i Ysgrfiennydd Amgylchedd, Llywodraeth San Steffan ddweud mewn araith yn Rhydychen heddiw y bydd y system bresennol, lle mae £3bn y cael eu talu’n flynyddol i ffermwyr a pherchnogion tir, yn parhau tan 2024.

Wedi hynny, fe fydd mwy o arian yn cael ei wario ar nwyddau cyhoeddus, gyda phrif ran y buddsoddiad yn cael ei ganolbwyntio ar wella’r amgylchedd.

Polisïau’r Undeb Ewropeaidd yn “ddifygiol”

Prif fyrdwn Michael Gove yn ei araith yng Nghynhadledd Ffermio yn Rhydychen, fydd ffermio wedi Brexit, a hynny cyn y bydd cynlluniau terfynol y Llywodraeth ar amaeth yn cael eu cyhoeddi’n ffurfiol y gwanwyn hwn.

Mae disgwyl iddo hefyd feirniadu polisïau’r Undeb Ewropeaidd – a gafodd eu creu er mwyn ddiogelu’r farchnad fwyd yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd. Fe fydd yn dadlau hefyd bod Brexit yn gyfle i’r Deyrnas Unedig lunio ei pholisïau newydd ei hunan.

Rhan fawr o hynny fyddai gwneud cefn gwlad yn fwy agored i’r cyhoedd; gwella’r amgylchedd; a diogelu cymunedau gwledig.

Er bod yna bryderon y bydd Brexit yn achosi problemau i’r sector amaeth, mae Michael Gove yn mynnu y bydd y polisiau newydd yn sicrhau “Brexit gwyrdd”.