Mae’r arth wen gyntaf i gael ei geni yng ngwledydd Prydain ers chwarter canrif, wedi dod i’r byd mewn parc bywyd gwyllt yn yr Alban.

Fe ddaeth cadarnhad fod benyw o’r enw Victoria yn yr Highland Wildlife Park yn Kincraig ger Kingussie.

Yno, mae’r staff wedi disgrifio’r enedigaeth fel un “arbennig”, ond maen nhw hefyd yn ofalus rhag dathlu’n rhy gynnar – mae tri mis cyntaf bywyd yr arth yn mynd i fod yn rhai tyngedfennol.