Fe allai gwledydd Prydain ymuno â grwp masnach ardal y Môr Tawel ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae adroddiad ym mhapur y Financial Times heddiw yn dweud bod llywodraeth San Steffan eisoes wedi cynnal trafodaethau anffurfiol ynglyn â’r posibilrwydd o ymuno a’r TTP (y Bartneriaeth Draws-Basiffig).

Y Deyrnas Unedig fyddai’r aelod cyntaf o’r grwp yn y cytundeb hwnnw sydd ddim yn ffinio â’r Môr Tawel neu Fôr De Tsieina.

Yn ôl y papur, mae’r Adran Fasnach Ryngwladol, dan Liam Fox, wrthi’n rhoi cynllun at ei gilydd a allai weld y Deyrnas Unedig yn ymuno â gwledydd fel Awstralia, Mecsico, Singapôr a Chanada. Fe gollodd y grwp ei aelod mwyaf, yr Unol Daleithiau, y llynedd, wedi i Donald Trump dynnu allan o’r cytundeb.

Yn ol llefarydd ar ran yr Adran, “mae’n ddyddiau cynnar”, ac mae yna ar hyn o bryd 14 o drafodaethau gwahanol yn digwydd ar draws 21 o wledydd er mwyn creu partneriaethau masnach ledled y byd.