Mae disgwyl i wyntoedd cryfion o hyd at 80 milltir yr awr daro gwledydd Prydain yr wythnos hon, gan achosi trafferthion teithio a llifogydd, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Mae yna rybudd i fannau digysgod yn y gorllewin, wrth i bumed storm y gaeaf gyrraedd o Ogledd Iwerddon.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer gogledd-ddwyrain a gorllewin Lloegr, Gogledd Iwerddon, a rhannau  o’r Alban ar gyfer y cyfnod rhwng 6yh nos Fawrth (heno) ac 8yb ddydd Mercher.

Mae disgwyl i arfordiroedd Cymru, ynghyd â de-orllewin Lloegr, brofi gwyntoedd mawr rhwng 60 ac 80 milltir yr awr.