Mae dyn wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, wedi ddynes gael ei thrywanu yn ystod munudau cyntaf 2018.

Mae Heddlu West Mercia yn dweud iddyn nhw gael eu galw i gyfeiriad yn Bromsgrove, Swydd Gaerwrangon.

Mae David Clark, 49, o Cloverdale, wedi’i gyhuddo o ladd y ddynes 44 oed ar Nos Galan.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerwrangon fore heddiw.