Mae Ysgrifennydd Tramor llywodraeth Prydain wedi galw am “drafodaethau ystyrlon” yn Iran, a hynny wedi i nifer o bobol gael eu lladd mewn protestiadau yn y wlad dros y dyddiau diwethaf.
Mae Boris Johnson yn dweud ei fod yn cadw llygar ar y gwrthdaro sy’n digwydd yno gyda “phryder”, wrth i’r protestiadau ddwysáu.
Dyma’r protestiadau mwyaf sydd wedi bod yn Iran ers 2009, wrth i bobol gwyno am economi wan y wlad a’r cynnydd ym mhrisiau bwyd.
Yn ôl y cyfryngau yn Iran, cafodd naw person eu lladd mewn gwrthdaro nos Lun, gyda chyfanswm o 12 wedi’u lladd dros y penwythnos.
Mae’n debyg bod yna aelod o’r heddlu wedi marw hefyd.
Angen “oedi” rhag denfyddio trais
 
Mewn neges ar Facebook, mae Boris Johnson wedi galw am “drafodaethau ystyrlon” yn Iran, gyda’r rheiny’n ymwneud â’r materion “cyfreithlon” y mae’r protestwyr yn eu codi.
Mae hefyd wedi galw ar y wlad i oedi rhag defnyddio trais, a hynny wedi i fyddin Iran rybuddio’r protestwyr y bydden nhw’n wynebu “dwrn haearn” os bydd y protestiadau yn parhau.
“Rydyn ni’n gresynu at y colledion sydd wedi digwydd mewn protestiadau yn Iran,” meddai Boris Johnson, “ac yn galw ar bawb i oedi rhag defnyddio trais ac i oblygiadau rhyngwladol i hawliau dynol gael eu hystyried.”