Kiwayu Safari Village, Kenya. Llun o wefan Africapoint
Bydd yn rhaid i deulu a ffrindiau gwraig gafodd ei herwgipio yn Kenya ar ol i’w gwr gael ei saethu’n farw, aros am rai dyddiau eto cyn cael clywed unrhyw newydd gan y rhai sydd wedi ei chipio, yn ol arbenigwr.

Dywedodd yr arbenigwr ar achosion  o herwgipio, Ben Lopez, y byddai’n rhaid aros i weld beth mae herwgipwyr Judith Tebbutt, 56, ei eisiau. Roedd yr herwgipwyr hefyd wedi lladd ei gwr David, oedd yn 58 oed.

Cafodd Mrs Tebbutt ei chipio o’r lle gwyliau anghysbell Kiwayu Safari Village, yn agos at y ffin rhwng Kenya a Somalia, yn ystod oriau man bore dydd Sul.

Mae’n debyg bod ei gwr wedi cael ei saethu’n farw ar ol iddo geisio atal y giang oedd wedi torri mewn i’w bwthyn.

Yn ol adroddiadau, mae’r heddlu yn Kenya wedi arestio dyn sy’n cael ei amau o fod yn gysylltiedig a herwgipio Mrs Tebbutt a llofruddiaeth ei gwr.

Roedd y cwpl, sy’n dod o Bishop’s Stortford yn Swydd Hertford, wedi body n ymweld a heldir y Masai Mara, a nhw oedd yr unig westeion yn y lle gwyliau.

Credir bod yr herwgipwyr yn dod o Somalia a’u bod nhw wedi defnyddio cwch i fynd a nhw o’r ynys anghysbell. Credir hefyd y gallen nhw fod yn rhan o’r grwp al Shabab sydd a chysylltiadau a al Qaida.

Dywedodd Mr Lopez ei bod hi nawr yn fater o aros i glywed beth mae nhw yn ei fynnu. Ychwanegodd bod yr herwgipwyr, mwy na thebyg, wedi cynllunio popeth o flaen llaw ac y gallai fod yn rai dyddiau eto cyn iddyn nhw gysylltu, er mwyn rhoi pwysau ychwanegol ar y teulu.