Banc Lloegr
Cynyddodd chwyddiant eto fis diwethaf, cyhoeddwyd heddiw.

Cododd biliau tanwydd i’w huchaf ers dwy flynedd ac fe gynyddodd cost dillad i’r uchaf erioed.

Cyrhaeddodd chwyddiant 4.5% ym mis Awst, o’i gymharu â 4.4% ym mis Gorffennaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cynyddodd prisiau dwr, trydan a nwy 5.1% flwyddyn-ar-flwyddyn, medden nhw. Dyna’r cynnydd blynyddol mwyaf ers mis Gorffennaf 2009.

Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos fod y Deyrnas Unedig wedi mewnforio gwerth £8.9 biliwn rhagor o nwyddau nac y cafodd eu hallforio ym mis Gorffennaf.

Mae economegwyr yn disgwyl i chwyddiant gyrraedd tua 5% yr hydref yma cyn syrthio’n gyflym.

Dywedodd Jonathan Loynes, prif economegydd Capital Economics, y bydd chwyddiant yn cyrraedd tua 2% erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, sef targed Banc Lloegr.