Mae Hindwiaid wedi galw ar Lywodraeth Prydain a’r Asiantaeth Safonau Bwyd i nodi’n glir pan fo gelatin wedi’i gynnwys mewn bwydydd.

Mae bwyta cig eidion – sy’n cynnwys gelatin – yn groes i ffydd yr Hindwiaid ac maen nhw’n awyddus i weld rhestr cynhwysion bwydydd yn dweud yn glir os oes gelatin mewn cynnyrch.

Dywed y clerigwr Hindwaidd a Llywydd y Gymdeithas Hindwaidd Fyd-eang, Rajan Zed fod bwyta cig eidion heb yn wybod iddyn nhw’n “niweidio teimladau Hindwiaid”, gan fod y fuwch yn anifail cysegredig iddyn nhw.

Ond yn ôl llefarydd ar ran Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan (DEFRA), does dim gorfodaeth ar y llywodraeth i nodi cynnyrch gelatin.

‘Siom’

Dywed y Gymdeithas Hindwaidd Fyd-eang mewn datganiad y byddai’n “destun siom i’r gymuned Hindwaidd Brydeinig ddod i wybod fod peth o’r cynnyrch bwyd poblogaidd, y gallen nhw fod wedi bod yn ei fwyta ers blynyddoedd, yn cynnwys cig eidion fel rhan o gelatin er nad oedd cig eidion wedi’i restru’n benodol ar y cynhwysion ar y bocs neu’r pecyn i’w rhybuddio”.

Dywedodd Rajan Zed ei bod yn “anodd deall pam fod cwmnïau Prydeinig a rhyngwladol, nifer o weithiau, heb fod yn ddigon tryloyw i sôn am gig eidion yn benodol”.

Ychwanegodd fod nodi cynnwys gelatin yn galluogi “cwsmeriaid i wneud dewisiadau cywir a phriodol”.

Galwodd ar yr Asiantaeth Safonau Bwyd i “weithredu ar yr hyn y mae’n ymffrostio yn ei gylch”, sef eu bod nhw “eisiau i bobol ddeall y gwirionedd am le mae ein bwyd yn dod a beth sydd ynddo”.

Ymateb cwmnïau bwyd

Wrth ymateb i gais y Gymdeithas, dywedodd cwmni Unilever, a gafodd ei sefydlu yn y 1880au, fod gelatin yn eu cynnyrch “i gynnig cynnyrch braster a chalorïau is ag iddo weadedd a thrwch pleserus” ac nad oes modd “sicrhau a ddaeth y gelatin o gig eidion neu o borc”.

Mae gelatin o gig eidion wedi’i gynnwys yng nghynnyrch cwmni gwm cnoi Wrigley a grawnfwydydd Kellogg’s hefyd.

Beth yw gelatin?

Daw gelatin o rannau o gyrff anifeiliaid ac fe gaiff ei ddefnyddio fel cyfrwng gelio bwyd.

Mae wedi’i gynnwys mewn rhai grawnfwydydd, hufen iâ, losin, iogwrt, hufen sur, menyn, gwm cnoi, pwdinau, cacennau, caws hufen a llawer mwy o fwydydd.

Fe gaiff ei ddefnyddio hefyd mewn finegr, sudd ffrwythau a rhai gwinoedd.