Mae lle i gredu bod pedwar o bobol o wledydd Prydain wedi marw ar ôl i’w hawyren blymio i afon yn Sydney yn Awstralia.

Mae chwech o gyrff wedi’u tynnu o’r dŵr, ac mae ymchwiliad ar y gweill i geisio eu hadnabod ac i ddarganfod beth oedd wedi achosi’r digwyddiad.

Dydy’r Swyddfa Dramor ddim wedi cyhoeddi rhagor o fanylion hyd yn hyn, ond maen nhw’n trafod y sefyllfa ag awdurdodau Awstralia.

Mae lle i gredu bod yr awyren wedi suddo’n gyflym ar ôl mynd i drafferthion oddi ar Jerusalem Bay wrth geisio cyrraedd Rose Bay.

Y gred yw fod pump o deithwyr a’r peilot ar yr awyren ar y pryd.