Mae diffoddwyr yn ceisio diffodd tân mawr mewn adeilad 12 llawr ym Manceinion.

Mae un llawr o’r adeilad yn Joiner Street yn ardal y Northern Quarter ar dân, ac mae torfeydd wedi cael eu symud o’r adeilad.

Ar y nawfed llawr y dechreuodd y tân, ac mae rhybudd i’r cyhoedd gadw draw.

Mae Joiner Street a Church Street ynghau am y tro, ac mae 12 injan dân ar y safle.