Mae Mwslimiaid yn ofni ymosodiadau brawychol gymaint â phawb arall yng ngwledydd Prydain, yn ôl llywydd Cymdeithas Menywod Moslemaidd Ahmadiyya, Fariha Khan.

Mae hi wedi rhybuddio bod achosion o Islamoffobia yn gwaethygu yn dilyn cyfres o ymosodiadau brawychol dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddweud bod agweddau drwgdybus yn gwneud mwy o niwed i’r gymuned.

Roedd hi ymhlith criw o bobol oedd wedi sefyll ar Bont Westminster ddyddiau’n unig ar ôl i Khalid Masood ladd pump o bobol ym mis Mawrth ar ôl eu taro.

Ers hynny, mae Llundain a Manceinion wedi gweld ymosodiadau pellach.

Dywedodd Dr Fariha Khan: “Rhaid i bobol ystyried fod ofni’r ymosodiadau hyn yr un mor real i ni ag ydyw iddyn nhwythau. Ry’n ni hefyd yn teithio i’r gwaith neu’n mynd allan gyda’n teuluoedd a’n plant.

 

 

 

“Fe fydd drwgdybio Mwslimiaid cyffredin, tra bod y rhan fwyaf o Fwslimiaid yn aelodau heddychlon o’r gymdeithas, ddim ond yn creu rhwyg yn y gymdeithas.”

Ymhlith y rhesymau pam eu bod nhw’n cael eu targedu, meddai Mwslimiaid, mae eu penderfyniad i wisgo’r hijab. Mae eu targedu, medden nhw, yn haws wrth i wefannau cymdeithasol dyfu.

Cyfrifoldeb pwy?

Yn ôl Dr Fariha Khan, mae gan bawb – o Fwslimiaid i wleidyddion – gyfrifoldeb i ddatrys y sefyllfa.

“Rhaid i’r imams [arweinwyr y ffydd Islamaidd] egluro bod Islam yn dysgu dyngarwch a chariad at gyd-ddyn.

 

 

 

 

“Ein gwaith ni yw gwarchod hawliau pob unigolyn i gredu’r hyn a fynno. Pe bai Mwslimiaid yn llwyddo yn hyn o beth, fe fyddai Islamoffobia’n darfod yn naturiol.”

Ychwanegodd fod gan y cyfryngau gyfrifoldeb i osgoi gorbwysleisio “gweithredoedd drwg nifer fach o Fwslimiaid”.