Mae disgwyl diwedd stormus i’r flwyddyn wrth i Storm Dylan ddynesu, gyda rhybudd am wyntoedd o hyd at 80 milltir yr awr yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.

Daw’r rhybudd wrth i eira mawr, glaw, stormydd mellt a tharanau gwynt achosi trafferthion ledled Prydain heddiw.

Disgynnodd 10cm o eira yn Glasgow, gan orfodi’r maes awyr yno i gau am oriau.

Mae disgwyl hefyd i gawodydd trwm i daro’r rhan fwyaf o dde Cymru a rhannau helaeth o dde Lloegr dros y penwythnos.

“Gyda’r tir yn wlyb iawn yn yr ardaloedd hyn, mae’n debygol o arwain at lefelau dŵr yn codi a llifogydd mewn rhannau,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.